Skip to content

Gwrth-hiliaeth ac addysg yng Nghymru: Dull Gweithredu Cenedlaethol. Beth sy’n digwydd nawr? Beth fydd yn digwydd nesaf?

Yn dilyn y seminarau blaenorol yng Nghaeredin a Leeds, bydd Cyfres Seminarau Llywyddol y Pedair Gwlad BERA yn cael ei chynnal yng Nghymru ar 1 Mai 2025. Gan gymryd gwrth-hiliaeth yn gyd-destun, bydd y diwrnod hwn yn dod â llunwyr polisi, ymchwilwyr academaidd ac arweinwyr ymarfer at ei gilydd i edrych ar bersbectifau damcaniaethol, ystyried datblygiadau mewn polisi a chynllunio ar gyfer cymryd y camau nesaf yng Nghymru a thu hwnt. Cynhelir y sesiwn yn adeilad y Senedd ym Mae Caerdydd / Ardal Dociau Caerdydd, amgylchedd a fydd yn ennyn teimladau cryf wrth edrych ar bolisi, ymarfer ac ymchwil yng Nghymru gan roi lle canolog i hanes sefydlu mudiad gwrth-hiliol i Gymru gyfan o’r enw Dysgu Proffesiynol Amrywiaeth a Gwrth-hiliaeth (DARPL) ac i’w waith dylanwadol.

Mae’r byd yn edrych tuag at Gymru gan ddisgwyl llawer ganddi wrth iddi ymdrechu i ddod yn genedl wrth-hiliol erbyn 2030 drwy roi Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol ar waith. Elfen ganolog yng ngwaith DARPL yw cwrdd â’r disgwyliadau a’r gofynion o ran llythrennedd hiliol, cyflawnder y Cynefin a dinasyddion byd-eang egwyddorol yn y Cwricwlwm i Gymru. Pa mor ymarferol yw uchelgais y Cynllun Gweithredu? Beth sy’n digwydd go iawn mewn addysg ar lawr gwlad yng Nghymru i gyrraedd y nod ar gyfer 2030? Beth yw’r rhwystrau a pha gyfleoedd sydd ar gael?

Mae Cymru’n gyforiog o hanes ymdrechion cymunedau’r mwyafrif byd-eang dros y cenedlaethau a’u dewrder wrth achub ar gyfleoedd. Drwy anerchiadau’r prif siaradwyr, trafodaethau panel a sgyrsiau byr o feysydd addysg, gofal plant a gwaith chwarae, ein nod yn y seminar fydd ystyried traddodiadau o ran ymwybyddiaeth hil yng Nghymru a oedd wedi arwain, yn 2021, at sefyllfa lle mai Cymru oedd y wlad gyntaf yn y DU i wneud hanes pobl Ddu, Asiaidd ac ethnig leiafrifol (yng Nghymru a’r byd) yn elfen orfodol yn y Cwricwlwm i Gymru. 

Mae gwaith DARPL yn cwmpasu addysg, gofal plant a gwaith chwarae ac mae’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. Mae DARPL yn gweithredu ar sail genedlaethol i arwain a hwyluso rhaeadru dysgu proffesiynol effeithiol ac yn cyflawni hyn ym mhob haen o’r system addysg. Mae DARPL yn gweithio drwy Gymuned Ymarfer egnïol ac amrywiol o’i brif swyddfa ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd, cymuned sy’n cyfuno profiad bywyd a phrofiad proffesiynol. Drwy gydweithio â sefydliadau ar lawr gwlad a thrwy ddulliau arloesol anarferol yn y gymuned, mae’r mudiad Cymreig hwn yn datgymalu ac yn ailffurfio’r dirwedd bolisi ranbarthol a chenedlaethol drwy ddylanwad, ymarfer ac ymchwil academaidd. Gan elwa o’r gwersi a ddysgwyd, mae DARPL yn dechrau gweithio yn y sector cyhoeddus ehangach.

Mae ymwybyddiaeth hil mewn addysg gyfoes yng Nghymru yn deillio o gymunedau ymfudol yn Butetown a ledled Cymru, yn enwedig o ddechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg hyd yn awr, ac mae’r cyd-destun hwn yn un unigryw. Ar hyn o bryd, drwy waith ymchwil i faterion yn ymwneud â recriwtio a chadw staff sydd wedi arwain at bennu gofynion cenedlaethol ar gyfer cyhoeddi cynlluniau gweithredu ar addysg gychwynnol i athrawon, rydym yn troi ein sylw at y diffyg amrywiaeth yn y gweithlu addysg. Mae arweinyddiaeth darfol gadarnhaol yn cael ei meithrin gan sicrhau gweithredu deallusol a bod lleisiau Cymreig amrywiol yn cael eu cyfleu a’u clywed er mwyn arwain a llunio’r gwaddolau gwrth-hiliol amrywiol a chydategol sy’n cael eu creu drwy waith DARPL. Mae gweithredu gwrth-hiliol mewn addysg a gofal plant yng Nghymru yn ennill tir. Mae lle i gredu ein bod mewn cyfnod o gynnydd mawr, yn sgil cefnogaeth wleidyddol, dadleuon deallusol, doethineb hanesyddol ein cymunedau, cyfleoedd a rhwystrau sy’n codi o’r newydd. Mae’n sicr mai’r cydasio rhwng Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol y llywodraeth, y Cwricwlwm i Gymru a pholisïau ar genedlaethau’r dyfodol a sefydliadau sy’n dysgu yw’r hyn sy’n cynnig y cyfle gorau i gael yr effaith fwyaf a chreu gwaddol o newid. Ar yr un pryd, rydym yn ystyriol yn ein gwlad fach ni o’r potensial ar gyfer cymharu a chydweithio rhyngwladol mewn gwledydd sydd hefyd yn datblygu cwricwla ymreolus neu hyd yn oed yn edrych yn fwy cyffredinol ar ffyrdd i drawsnewid eu gweithlu addysg i ddelio ag anghydraddoldebau byd-eang.

Yn ein trafodaethau ar 1 Mai 2025, byddwn yn tynnu ynghyd y themâu rhyngweithiol sydd mewn hunaniaeth Gymreig amrywiol a’r cysyniadau o berthyn i gynefin a hiraeth (cariad at gartref/gwlad) wrth ystyried rôl DARPL fel mudiad cenedlaethol cyfoes a chymunedol sy’n helpu i ddiffinio a disgrifio model rhaeadru ar gyfer hyrwyddo gwrth-hiliaeth, dad-ddysgu proffesiynol ac ailddysgu proffesiynol. Mae dull gweithredu DARPL wedi’i seilio ar ddeialogau hanesyddol o fewn y cyd-destun Cymreig. Mae dull arbrofol DARPL o fynd i’r afael â meysydd dysgu proffesiynol ‘newydd’ yn rhoi cyfle i herio cysyniadau o addysg gynhwysol ac i ystyried damcaniaethau newid ac addysgegau sy’n ymwneud ag ymwybyddiaeth feirniadol, ymchwilio a sylwi.

Ond a yw hyn yn ddigon ar ei ben ei hun? Mae nifer o weithredwyr DARPL wedi dweud wrthym fod eu dulliau DARPL yn effeithiol dros ben ond bod nifer mawr o hyd sydd heb ddod o fewn eu cyrraedd. Mae ein hymchwil yn 2023 yn dweud wrthym fod hiliaeth yn gyffredin o hyd ym mywydau plant yng Nghymru. Mae ein harolygon wrth ddysgu yn dangos bod nifer mawr o addysgwyr o hyd nad ydynt yn gwybod am Gynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol Llywodraeth Cymru nac am yr adroddiad Cymunedau, Cyfraniadau a Chynefin Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yn y Cwricwlwm Newydd 2020-2021 ond eu bod, wrth ddod i wybod amdanynt, yn dechrau ymroi o ddifrif i ddysgu personol a phroffesiynol

Beth mae arweinwyr, addysgwyr a dysgwyr sy’n pontio’r cenedlaethau yn ei feddwl a’i deimlo o ddifrif am wrth-hiliaeth yn y diwylliant addysg, yn y cwricwlwm, ac am y dull gweithredu cymunedol i Gymru gyfan? Beth arall sydd ei angen? A beth fydd yn digwydd nesaf yng Nghymru? A wnewch chi ymuno â ni yn y mudiad hwn? 

Chair and Panellists

Profile picture of Marlon Moncrieffe
Marlon Moncrieffe, Dr

BERA President at British Educational Research Association

Marlon has made a leading contribution to research and knowledge dissemination on ‘decolonising curriculum knowledge’. He has led multiple international research projects, has presented individually and led symposia at educational conferences...

Profile picture of Chantelle Haughton
Chantelle Haughton, Mrs

DARPL Founder-Director and Principal Lecturer at Cardiff Metropolitan University

Chantelle Haughton is the Director and Founder of DARPL (Diversity and Anti-Racist Professional Learning). Chantelle is a principal lecturer in Early Years Education at Cardiff Metropolitan University and a National Teaching Fellow. Chantelle is...

Profile picture of Kevin Palmer
Kevin Palmer, Dr

Deputy Director for Pedagogy, Leadership and Professional Learning at Welsh Government

Dr Kevin Palmer is Deputy Director for Pedagogy, Leadership and Professional Learning in the Welsh Government. Having secured a PhD in Literary Theory and qualified to teach in further education in the 1980s, Kevin worked as a lecturer, middle...

Profile picture of Susan Davis
Susan Davis, Dr

Reader in Diversity, Equity and Inclusion in Education at Cardiff Metropolitan University

Dr Susan Davis is a Reader in Education, within the School of Education and Social Policy, Cardiff Metropolitan University. She is the pathway leader for the professional doctorate / EdD. On the Welsh Government DARPL programme, she is the...

Profile picture of Gary Beauchamp
Gary Beauchamp, Professor

Professor of Education at Cardiff Metropolitan University

Gary Beauchamp is Professor of Education in the School of Education and Social Policy at Cardiff Metropolitan University. Gary is Chair of Governors for Mount Stuart Primary School. He was Director of Research from 2009-2020. Gary worked for many...

Profile picture of Gaynor Legall
Gaynor Legall, Dr

The Heritage & Cultural Exchange

Dr Gaynor Legall is Chair of Tiger Bay and The World: Heritage Culture Exchange. . Gaynor Chaired the pioneering audit to challenge commemoration in Wales ‘The Slave Trade and The British Empire Report’ published by Welsh Government in 2021...

Profile picture of Emmanuel Ogbonna
Emmanuel Ogbonna, Professor

Professor at Cardiff University

Emmanuel Ogbonna is Professor of Management and Organization at Cardiff Business School, Cardiff University. He gained his PhD from University of Wales Cardiff in 1990 and was awarded a chair in 2002. His recent research interests have been in...

Profile picture of Charlotte Williams
Charlotte Williams, Professor

Professor at Bangor University

Charlotte Williams OBE , FLSW is Professor Emeritus in the School of History, Law and Social Sciences, Bangor University. She is co-editor of the ground-breaking text ‘A Tolerant Nation? Revisiting Ethnic Diversity in Wales’ (UWP 2003 and...

Profile picture of Connor Allen
Connor Allen

Poet

Connor was Children’s Laureate for Wales 2021-2023 a poet and multidisciplinary artist from Newport. Connor has worked with companies such as Taking Flight Theatre, Sherman Theatre, Royal Exchange Manchester, Tin Shed Theatre, BBC Wales,...

Profile picture of Lilian Martin
Lilian Martin, Mrs

Lecturer at University of Wales Trinity Saint David

Lilian holds critical roles in curriculum development and pedagogy, emphasising transformative anti-racist educational practices. With twenty years of experience in Welsh educational settings, Lilian has transitioned from traditional pedagogical...

Profile picture of Leon Andrews
Leon Andrews, Mr

DARPL National Outreach Teacher / Senior Lecturer / Curriculum Engagement Officer at Cardiff Metropolitan University

Leon Andrews is DARPL's National Outreach Teacher and Senior Lecturer at CMet; currently seconded from Llanwern High School, the first recipients of the Betty Campbell Award for promoting the contributions and perspectives of Black, Asian and...

Profile picture of Rocio Cifuentes
Rocio Cifuentes

Children's Commissioner for Wales

Rocio is the Children’s Commissioner for Wales, taking up the post in April 2022. Rocio was born in Chile, arriving in Wales as a 1 year old with her parents as political refugees from Chile. Growing up in Swansea, she went to Parklands...